Publisher: Atebol CyfyngedigISBN: 9781801061636Number of pages: 48Dimensions: 210 x 147 x 6 mm
MEDIA REVIEWS
Mae'r nofel hon yn ticio sawl bocs: 1.)Mae'n berffaith ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad,ac mae'r paragraff cyntaf mor syml: "Elsa Bowen dw i. Ditectif preifat dw i. Dw i'n byw yng Nghaernarfon."Bydd yn rhoi hyder i'r dysgwr o'r cychwyn cyntaf. Mae'r ail baragraff yn defnyddio'roedd'ac'mi wnes'ac mae'r patrymau yn aros yn gyson syml at y diwedd. Ond mae'r awdur yn diwtor Cymraeg hynod brofiadol sydd wedi dysgu'r iaith ei hunan,flynyddoedd yn l,felly yn ddewis perffaith.2.)Nofel dditectif ydi hi - rhywbeth prin yn y Gymraeg.3.)Mae llawer o'r stori yn digwydd mewn siop lyfrau! Syniad gwych sy'n gweithio'n dda.4.)Mae hi wedi ei lleoli yn y gogledd - Caernarfon,i fod yn fanwl gywir,ac mae llyfrau ar gyfer dysgwyr sydd wedi eu lleoli yn y gogledd,efo iaith ogleddol,wedi bod yn brin iawn tan yn ddiweddar.5.)Nid addasiad mohoni,ond nofel wreiddiol o ben a phastwn Pegi,sy'n ei gwneud yn llawer mwy diddorol a pherthnasol.6.)Merch gref yw'r prif gymeriad - a'r dihiryn.7.)Mae'n perthyn i gyfres,sef Cyfres Amdani. Mae'r llyfrau i gyd wedi eu harchwilio'n ofalus gan yr un criw,felly bydd y patrymau iaith a'r eirfa yn gyson. Hefyd,maen nhw wedi eu graddoli ar bedair lefel,a dyma'r lefel gyntaf,felly bydd y dysgwyr yn gallu symud ymlaen gam wrth gam a thrwy hynny yn gweld y cynnydd yn eu gallu i ddarllen a deall Cymraeg.8.)Mae ynddi luniau - rhai du a gwyn gan Hywel Griffith,yn arddull hen lyfrau ditectif. Maen nhw'n sicr yn ychwanegu at y testun ac yn help i gynnal y naws noir. 9.)Mae'r eirfa ar waelod pob tudalen ond hefyd mewn bold yn y stori,ac eto wedyn mewn rhestr yn l y wyddor yn y cefn. Defnyddiol iawn.A be am y stori ei hun Mae'n gweithio: ro'n i'n hoffi Elsa,y prif gymeriad yn arw. Fel pob ditectif da,dydi hi ddim yn berffaith. O ran y plot,ro'n i eisiau gwybod be oedd yn y llyfrau roedd y'gangsters'yn dod i'w casglu o'r siop,ond wna i ddim difetha'r stori i chi fan hyn. Ac ro'n i'n arbennig o hoff o'r diweddglo,sy'n awgrymu'n gynnil bod mwy o helyntion Elsi i ddod. Ond dydi hi byth yn glawio yng Nghaernarfon go iawn,wrth gwrs!
Kommentar